Mae sawl peth wedi digwydd yn fy mywyd ers 2020. Fe wnes i golli fy mam i Covid ac yna bu farw fy nain yn fuan wedyn. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, cafodd fy nheulu a minnau ein gorfodi i symud i lety brys i ddianc o’n sefyllfa fyw ofnadwy.
Bu bron i mi â cholli fy mab. Roedd yn teimlo fel bod un peth drwg ar ôl y llall yn digwydd, a doeddwn i ddim fel pe bawn i’n gallu cael fy hun allan o’r cylch.Yn y diwedd fe es i weld fy meddyg teulu gan fy mod i wedi bod yn cael rhai problemau parhaus gyda fy iechyd corfforol, ac fe wnaethon nhw fy nghyfeirio at Mind i gael cymorth gyda fy iechyd meddwl.Cefais fy nghofrestru ar gyfer hunangymorth â chefnogaeth, a dyna pryd y dechreuais i weithio gyda fy ymarferydd Stephanie o Mind Gogledd Ddwyrain Cymru.Rhaglen un-i-un dan arweiniad sy’n para am chwe wythnos yw hunangymorth â chefnogaeth.
Ac mae o am ddim. Mae Mind yn rhoi’r deunyddiau i chi ddeall a rheoli eich teimladau, ac mae eu hymarferwyr yn defnyddio sgiliau cwnsela ac offer Therapi Gwybyddol Ymddygiadol yn y sesiynau.
Read more on mind.org.uk