mind.org.uk
92%
990
Sut y gwnaeth hunangymorth â chefnogaeth fy helpu i adennill fy hyder
Pan gefais hunangymorth â chefnogaeth drwy Mind Aberhonddu i ddechrau, roedd fy iechyd meddwl ar ei waethaf ac roeddwn i’n ei chael hi’n anodd bod yn ddigon dewr i ofyn i rywun am gymorth, yn ogystal â siarad am fy mhroblemau.Gan fy mod yn y brifysgol ar y pryd, roedd bod ymhell o gartref yn her ac roedd delio â chyfnod anodd o ran fy iechyd meddwl yn gwneud tasgau eraill fel astudio, cymdeithasu, a bod yn fi fy hun yn anodd.Rwy’n ffodus o gael rhiant sy’n gweithio i Mind a oedd yn gallu fy nghyfeirio at yr opsiwn gorau i fi a fy iechyd ar y pryd. Roedd hyn yn gymorth mawr i fi gan nad ydw i’n hyderus yn gofyn am help gan ‘ddieithryn’ fy hun.