PAM: recent publications

All articles where PAM is mentioned

mind.org.uk
61%
337
Y Gofod Llwyd
"Sylweddolais yn sydyn iawn nad ward seiciatrig oedd yr amgylchedd cywir i ferch ifanc gydag Anhwylder Bwyta."Cefais fy atgyfeirio gan fy nhîm CAMHS i’r Gwasanaethau Oedolion wrth geisio atal fy nirywiad yn y cyfamser.  Fodd bynnag, nid oedd ganddynt unrhyw bŵer i wneud penderfyniadau mawr ar fy rhan am fy mod dros 18 oed erbyn hyn, a oedd yn golygu fy mod yn parhau i fynd i’r Brifysgol a byw i ffwrdd o gartref.  Yn y cyfnod hwn, gwaethygodd fy Anhwylder Bwyta yn raddol a olygodd y bu’n rhaid i mi adael y Brifysgol.Cyrhaeddais bwynt argyfwng pan fu’n rhaid i fy ymgynghorydd CAMHS alw ward seiciatrig i oedolion a threfnu i mi gael fy nerbyn y diwrnod hwnnw.  Gyda gwaith caled fy ymgynghorydd, cefais fy nerbyn gan y Gwasanaethau Oedolion o’r diwedd a chefais fy nerbyn yn yr ysbyty.  Sylweddolais yn sydyn iawn nad ward seiciatrig oedd yr amgylchedd cywir i ferch ifanc gydag Anhwylder Bwyta.  Roedd y cleifion tair gwaith fy oedran ar y cyfan, gyda salwch meddwl a oedd yn amrywio o sgitsoffrenia, iselder a phroblemau dibyniaeth.  Nid oeddwn byth yn gwybod pryd y byddai helynt yn mynd i ddechrau, roeddwn yn teimlo’n anniogel ac wedi fy nghamddeall.  Profiad cyfyngedig oedd gan y tîm o Anhwylderau Bwyta felly nid oeddent yn sylwi ar fy ymddygiad ac roeddwn yn gallu parhau i golli pwysau.  Roeddwn yn teimlo nad oedd unrhyw un yn gwybod beth i’w wneud i fy helpu ac aeth nifer o wythnosau heibio cyn i fi gael cyswllt gyda Thîm Anhwylderau Bwyta Oedolion.  Erbyn y pwynt hwn, roeddwn mor sâl, ni allai unrhyw beth yr oedd unrhyw un yn ei ddweud wrthyf newid unrhyw beth."Roedd y cyfnod aros yn teimlo fel oes i fy rhieni, wrth iddynt fy ngweld yn gwanhau ac yn gwaethygu’n ddifrifol."Arhosais ar y ward seiciatrig am nifer o fisoedd, yn
PAM
DMCA