I mi, mae bod yn ymddiriedolwr yn golygu bod yn rhan o rywbeth mwy na mi a gwybod ein bod yn gwneud popeth gallwn ni i helpu llesiant ein cymunedau ar gyfer y dyfodol.Mae pobl yn dweud mai ein hiechyd yw’r peth mwyaf gwerthfawr sydd gennym.
I mi, mae popeth yn dechrau gydag iechyd meddwl da. Rydw i mewn sefyllfa ffodus bod gen i sgiliau defnyddiol i’w cynnig, a rhywfaint o amser i wirfoddoli, sy’n rhan bwysig o fy mywyd ac sy’n cefnogi fy lles meddyliol fy hun."Mae bod yn Ymddiriedolwr gyda Mind Canolbarth a Gogledd Powys yn golygu fy mod yn helpu fy nghymuned mewn ffordd sydd o fudd i mi hefyd".Mae gennym Fwrdd Ymddiriedolwyr cefnogol iawn a thîm staff gwych sy’n rhoi’r holl adnoddau i ni wneud penderfyniadau da a deall effaith ein gwaith.
Mae’n deimlad braf iawn gwybod ein bod ni i gyd wedi chwarae ein rhan i sicrhau bod cymorth iechyd meddwl ar gael ar draws ein rhan wledig iawn o Gymru.Yn fy swydd o ddydd i ddydd rwy’n rhedeg mudiad celfyddydau mewn iechyd bach, Music Anywhere CIC, sy’n mynd â cherddoriaeth fyw i bobl a allai fod ar eu pen eu hunain neu’n unig.
Read more on mind.org.uk