Pan gefais hunangymorth â chefnogaeth drwy Mind Aberhonddu i ddechrau, roedd fy iechyd meddwl ar ei waethaf ac roeddwn i’n ei chael hi’n anodd bod yn ddigon dewr i ofyn i rywun am gymorth, yn ogystal â siarad am fy mhroblemau.Gan fy mod yn y brifysgol ar y pryd, roedd bod ymhell o gartref yn her ac roedd delio â chyfnod anodd o ran fy iechyd meddwl yn gwneud tasgau eraill fel astudio, cymdeithasu, a bod yn fi fy hun yn anodd.Rwy’n ffodus o gael rhiant sy’n gweithio i Mind a oedd yn gallu fy nghyfeirio at yr opsiwn gorau i fi a fy iechyd ar y pryd.
Roedd hyn yn gymorth mawr i fi gan nad ydw i’n hyderus yn gofyn am help gan ‘ddieithryn’ fy hun. Rydw i hefyd yn gwybod am wasanaethau hunangymorth drwy siarad â ffrindiau eraill, aelodau o’r teulu a ffynonellau gwybodaeth eraill.Roeddwn i’n ansicr ai dyma’r llwybr gorau i fi ar y dechrau, ond yn fuan iawn fe wnes i ganfod y byddai meithrin ymddiriedaeth gyda fy ymarferydd a dilyn y camau tuag at well iechyd meddwl yn cymryd amser ac ymarfer.
Fe wnes i oresgyn y teimlad cychwynnol hwn a sylweddoli fy mod yn teimlo rhyddhad a theimlo’n ysgafnach, gan wybod fy mod i’n gallu siarad yn gyfrinachol â rhywun."Roedd hunangymorth â chefnogaeth wedi helpu fy iechyd meddwl, ond roeddwn hefyd yn teimlo fy mod yn dod yn iachach yn gorfforol."Roeddwn i’n cyd-dynnu’n dda iawn â fy ymarferydd.
Read more on mind.org.uk