mind.org.uk
77%
753
Sut mae grwpiau Mind lleol yn eich helpu yng Nghymru
Argraffiadau cyntafDdechrau Mai dechreuais ar daith newydd gyffrous fel Pennaeth Rhwydweithiau (Cymru), sy’n golygu fy mod yn gweithio’n agos â grwpiau Mind lleol yng Nghymru ac yn eu cefnogi nhw i helpu mwy o bobl sy’n byw gyda phroblem iechyd meddwl.Ar fy niwrnod cyntaf yn y swydd es ar daith i Ogledd Cymru i ymweld â fy Mind lleol cyntaf erioed yn Mind Conwy, cyn mynd draw i Mind Dyffryn Clwyd. Ni chymerodd yn hir i mi sylweddoli fod y rhwydwaith Mind lleol yn rhywbeth arbennig iawn, y galon sy'n curo yn eu cymunedau ble maen nhw'n byw ac yn achubiaeth i gymaint.Mae’r gefnogaeth leol yn ymateb yn drawiadol ac yn uniongyrchol i anghenion y cymunedau ac o gofio fod 19 Mind lleol ar draws Cymru, yn darparu cefnogaeth iechyd meddwl i blant, pobl ifanc ac oedolion, mae’r hyn sy’n cael ei gynnig yn syfrdanol ac yn unigryw. Gyda gwasanaethau fel therapïau sgwrsio, llinellau cymorth argyfwng, canolfannau galw i mewn, cynlluniau cyflogaeth a hyfforddi, cwnsela a chyfeillio, mae yna gymaint o gefnogaeth ar gael ac wedi’i deilwra i ymateb i angen. Ar y fforddUn o'r grwpiau Mind lleol yr oeddwn yn ffodus i ymweld â nhw yn ddiweddar oedd Mind Sir Benfro, ac mi oedd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Meddwl a Lles, Lynne Neagle AoS hefyd yn ymweld ar yr un diwrnod.