Mae Mind Canolbarth a Gogledd Powys wedi bod yn rhedeg grŵp cymorth cymheiriaid LHDTC+ ers 2017. Sefydlwyd y grŵp ar ôl nodi’r angen i ddarparu lle diogel, cefnogol i bobl sy'n ystyried eu bod yn LHDTC+ i gwrdd â chyfoedion, gan alluogi pobl i drafod y materion yr oeddent yn eu hwynebu a oedd yn effeithio ar eu hiechyd meddwl, lleihau unigedd a gwella ymdeimlad o lesiant pobl.
I ddechrau, roedd y grŵp yn cyfarfod yn fisol, gan gynyddu i unwaith bob pythefnos yn eithaf cyflym, ar gais yr aelodau."Roedd yr aelodau eisiau codi ymwybyddiaeth o fod yn unigolyn LHDTC+ ym Mhowys a helpu i leihau'r stigma cysylltiedig ac i leddfu effeithiau straen grwpiau lleiafrifol."Fel grŵp dan arweiniad cyfoedion, roedd yr aelodau eisiau codi ymwybyddiaeth o fod yn unigolyn LHDTC+ ym Mhowys a helpu i leihau'r stigma cysylltiedig ac i leddfu effeithiau straen grwpiau lleiafrifol.
Gwahoddodd y grŵp swyddog cyswllt LHDTC+ yr Heddlu lleol i siarad, a wnaeth greu cysylltiadau da a hyrwyddo diogelwch. Aeth y grŵp hefyd i ddangosiadau ffilmiau a thrafod pynciau penodol y gofynnwyd amdanynt gan aelodau’r grŵp.
Read more on mind.org.uk