Rydw i wrth fy modd yn cerdded nawr, ond nid felly oedd hi bob amser. Mae cerdded a’r awyr agored yn weithgareddau cymharol newydd y gwnes i ddechrau ymddiddori ynddyn nhw yn fy 30egau cynnar.
Fe ges i fy magu yn Ne Cymru, lle doeddwn i byth yn bell iawn o fryniau tonnog, morlinau creigiog a llwybrau coediog, ond yn f'arddegau, gweithgareddau llai gwledig fel gwylio'r teledu a bwyta creision oedd yn denu fy sylw.Mae’n debyg bod gwylio’r teledu a chreision wedi fy nghynnal i am lawer mwy o amser nag y dylen nhw fod wedi gwneud, ond fel rydyn ni i gyd yn gwybod, dyw bywyd ddim bob amser yn aros mor syml â hynny.
Fel bachgen ifanc, fe wnes i brofi’r holl ofid a’r holl deimladau gorlethol arferol ynghylch cael fy nerbyn a bod yn ddigon da.
Read more on mind.org.uk