Mae Mind wastad wedi bod yno i mi a fy nheulu cyn belled ag y gallaf gofio. Cafodd fy mam ddiagnosis o sgitsoffrenia pan oeddwn yn blentyn, ac roedd angen llawer iawn o help arna i gyda phroblemau efo tai, ymysg pethau eraill.
Dim ond yn fy arddegau oeddwn i, felly doeddwn i ddim yn gallu gofalu amdani. Ond, roedd yna elusennau fel Mind yno i fy helpu.“Roedd fy mam i mewn ac allan o ysbytai seiciatrig.
Tra byddai hi yn yr ysbyty, byddwn i’n cael fy rhoi mewn gwahanol gartrefi maeth.”Roedd fy mam i mewn ac allan o ysbytai seiciatrig, a byddai’r heddlu’n defnyddio’r Ddeddf Iechyd Meddwl i’w chadw hi yno.
Read more on mind.org.uk