Fi oedd wastad yr olaf i gael fy newis yn yr ysgol. Roeddwn yn brin iawn o hyder ac roeddwn i’n poeni nad oedd fy nghorff yn gallu gwneud chwaraeon na bod yn heini.Roedd gwylio pobl ‘go iawn’ yn herio'r Gladiators ar nos Sadwrn yn ôl yn y 1990au yn gwneud i mi feddwl efallai y gallwn newid.
Roeddwn i’n gwneud press-ups a sit-ups yn fy ystafell wely, cyn dechrau nofio a mynd i’r gampfa yn fy nghanolfan hamdden leol.Er nad oeddwn i’n gryf iawn mewn gwirionedd, roedd teimlo’n gryf yn fy helpu i fod yn fwy hyderus a hapus am fy nghorff pan yn ifanc, ac roedd hynny’n fy helpu i gael perthynas well â fy nheulu, ffrindiau ac, yn achlysurol iawn, merched!Fe wnes i barhau i godi pwysau fel oedolyn.
Dim byd rhy eithafol, ond mae bob amser wedi fy helpu, nid yn unig gyda fy hyder ond hefyd o ran teimlo’n iach ac yn bositif.
Read more on mind.org.uk