Byddai Dad bob amser yn rhoi cwtsh i fi a siarad am y peth i helpu fi i ymlacio.Pan roedd fy ngorbryder yn wael iawn, neu’ pan oeddwn i’n dioddef pyliau o banig, byddai Dad bob amser yn rhoi cwtsh i fi a siarad am y peth i helpu fi i ymlacio.
Roedd ganddo ffordd o fy nghysuro i a sicrhau nad oedd unrhyw beth tebyg yn mynd i ddigwydd i fi eto. Byddai bob amser yn gwybod sut i wneud i fi wenu a chwerthin eto.
Byddai’n dweud jôc, ac yna fy ngoglais i nes bod gwên ar fy wyneb eto. Ei hoff bethau i goginio oedd brecwast llawn blasus neu Spaghetti Bolognese, gyda pheli cig cartref.
Read more on mind.org.uk