“Mae pobl yn gwneud llawer o ragdybiaethau”Mae iselder, a llawer o gyflyrau iechyd meddwl eraill, yn gallu ymddangos mewn gwahanol ffyrdd ac mae pobl yn gwneud llawer o ragdybiaethau ynghylch sut y dylai person isel edrych.Er enghraifft, fel rhywun sy’n allblyg, siaradus a hyderus, mae rhai cwnselwyr wedi dweud nad ydw i’n ‘ymddangos yn isel’ neu nad oes gen i ddim 'rheswm' dros fod yn isel.
Mae iselder yn gallu bod oherwydd rheswm, ond nid dyna’r achos pob tro.Weithiau, bydd pobl yn rhoi enghreifftiau i mi o bethau rwyf wedi’u cyflawni neu bethau rwy’n eu mwynhau fel rhesymau pan na ddylwn fod yn isel, neu'n awgrymu fod y pethau hynny golygu fy mod yn 'caru bywyd' ac felly ddim eisiau diweddu pethau go iawn.Mae’r mathau hyn o sylwadau’n gallu gwneud i mi deimlo hyd yn oed yn fwy ynysig a dryslyd, sy’n fy nhroi i ffwrdd o chwilio am help.
Yn y gorffennol, mae hyn wedi achosi i mi fynd hyd yn oed yn fwy anhrefnus, ac rwyf hyd yn oed, weithiau, yn cael profiad o ddatgysylltiad - fel pe byddwn i’n edrych arna i fy hun o’r tu allan.Cael CefnogaethRwyf wedi bod yn brwydro gyda fy iechyd meddwl ers pan oeddwn i’n 19 mlwydd oedd.
Read more on mind.org.uk