Roedd yna fisoedd wedi mynd wrth adeiladu at y gor-ddôs: apwyntiadau meddyg parhaus, sesiynau cwnsela, hunan niweidio, cynyddu fy nhabledi gwrth-iselder yn rheolaidd.
Roeddwn i’n dweud drosodd a throsodd nad oeddwn i eisiau byw, ond roeddwn i’n teimlo fel nad oedd neb byth yn gwrando.Roeddwn i hyd yn oed wedi cael sgyrsiau gyda ffrindiau am hyn, eto, mae’n ymddangos nad oedd neb yn meddwl y byddwn yn ei wneud e go iawn.
Rwy’n meddwl fod hyd yn oed rhan o fi fy hunan yn amau a allwn i byth ei wneud e.Doeddwn i ddim eisiau mynd i’r ysbyty – yn enwedig ddim yng nghanol pandemig pan oedd y newyddion yn cael ei foddi gyda storïau am y Gwasanaeth Iechyd ar fin torri.
Read more on mind.org.uk