mind.org.uk
60%
829
Llywio trwy’r system iechyd meddwl fel person ifanc
“Mae pobl yn gwneud llawer o ragdybiaethau”Mae iselder, a llawer o gyflyrau iechyd meddwl eraill, yn gallu ymddangos mewn gwahanol ffyrdd ac mae pobl yn gwneud llawer o ragdybiaethau ynghylch sut y dylai person isel edrych.Er enghraifft, fel rhywun sy’n allblyg, siaradus a hyderus, mae rhai cwnselwyr wedi dweud nad ydw i’n ‘ymddangos yn isel’ neu nad oes gen i ddim 'rheswm' dros fod yn isel. Mae iselder yn gallu bod oherwydd rheswm, ond nid dyna’r achos pob tro.Weithiau, bydd pobl yn rhoi enghreifftiau i mi o bethau rwyf wedi’u cyflawni neu bethau rwy’n eu mwynhau fel rhesymau pan na ddylwn fod yn isel, neu'n awgrymu fod y pethau hynny golygu fy mod yn 'caru bywyd' ac felly ddim eisiau diweddu pethau go iawn.Mae’r mathau hyn o sylwadau’n gallu gwneud i mi deimlo hyd yn oed yn fwy ynysig a dryslyd, sy’n fy nhroi i ffwrdd o chwilio am help.