Mae’r cyfnod cloi wedi fy nhaflu i’n llwyr.Mae’n adeg ryfedd ac anarferol i bawb, os ydych chi’n ei chael yn anodd ymdopi â’ch iechyd meddwl ai peidio.
Gan fy mod i’n methu â rheoli’r hyn sy’n digwydd yn y byd tu allan, rwy’n treulio llawer o amser yn sownd yn fy meddwl, sydd ddim wir yn lle da i fi fod, yn enwedig pan fod y pethau sydd fel arfer yn fy nghadw i’n brysur, fel mynd allan gyda ffrindiau, wedi cael eu cymryd oddi wrthyf i.Gydag anhwylder iechyd meddwl fel anhwylder deubegwn, mae’n rhwydd treulio bywyd yn poeni am y newid nesaf yn eich hwyliau.
Read more on mind.org.uk