Pan fydd y ffôn yn canu, fydda i byth yn gwybod pwy fydd ar ben arall y llinell. Rydw i yno i ateb eu galwad, gwrando a helpu cymaint ag y gallaf.
Yn aml, pan fyddan nhw’n siarad â mi, dyma’r tro cyntaf iddyn nhw esbonio sefyllfa yn ei chyfanrwydd. Rydym ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 6pm ac rydyn ni’n cynnig gwybodaeth gyfrinachol am iechyd meddwl a lle gall pobl fynd i gael help.“Er nad yw Mind yn gallu rhoi arian i bobl na datrys problemau tai, gallwn wrando arnynt a’u pwyntio i’r cyfeiriad iawn.”Yn ddiweddar, rydym wedi cael mwy o alwadau am yr argyfwng costau byw gyda phobl yn poeni am sefyllfaoedd tai a chostau cynyddol.
Er nad yw Mind yn gallu rhoi arian i bobl na datrys problemau tai, gallwn wrando arnynt a’u pwyntio i’r cyfeiriad iawn i gael cymorth.Rydym yn gwybod bod pryderon ariannol yn effeithio ar iechyd meddwl pawb, felly rydw i’n ceisio gwneud yn siŵr eu bod yn meddwl am eu hiechyd meddwl eu hunain ac yn gwybod lle gallan nhw gael cymorth pan fydd ei angen arnyn nhw.Rydym newydd agor Llinell Hawliau Lles newydd sy’n darparu gwybodaeth gyffredinol am fudd-daliadau a lles er mwyn helpu pobl i gael gafael ar yr arian y mae ganddyn nhw hawl i’w gael.
Read more on mind.org.uk