Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn cyrraedd yn llawer cynt bob blwyddyn! Ar ôl cael llawer o gysur a chefnogaeth dros y blynyddoedd wrth ddarllen 'Eich Straeon' ar wefan Mind, eleni rydw i wedi penderfynu ysgrifennu am fy mhrofiadau i a’r dulliau rydw i’n eu defnyddio i ymdopi.
Fy nghefndirMae iechyd meddwl wedi bod yn agos at fy nghalon ers rhai blynyddoedd. Yn anffodus, collasom fy Nhad o ganlyniad i iselder yn 2007 – dyn hoffus, oedd â’i draed yn gadarn ar y ddaear, ac a oedd yn meddwl y byd o’i deulu.
Effeithiodd y golled ar bob un ohonom mewn ffordd na fyddem byth wedi gallu ei dychmygu. Rydw i am fod yn hollol onest hefyd (fel sydd orau yn aml â materion iechyd meddwl) a dweud fy mod innau’n dioddef o iselder a gorbryder, a hynny ers rhai blynyddoedd erbyn hyn.Mae’n siŵr bod llawer ohonoch sy’n darllen hyn mewn sefyllfa debyg, neu wedi bod mewn sefyllfa debyg – yn enwedig o ganlyniad i’r cyfnod digynsail o dros 2 flynedd y mae pob un ohonom wedi’i wynebu (ac ydy, mae’r gair ‘digynsail’ yn mynd dan fy nghroen i hefyd..).
Read more on mind.org.uk