Ond ble bynnag roeddwn i’n edrych, roeddwn i’n cael trafferth dod o hyd i enghreifftiau o bobl oedd yn edrych fel fi neu oedd yn cael profiadau tebyg i'r hyn roeddwn i’n mynd drwyddo.
Yr unig bobl roeddwn wedi clywed amdanyn nhw oedd yn dioddef ag anhwylderau bwyta oedd merched ifanc, a doedd y bobl oedd yn cael eu dangos yn y cyfryngau oedd yn dioddef o anorecsia ddim byd tebyg i fi o gwbl.
Roedd yr unigrwydd roeddwn i’n ei deimlo ac wedi ei brofi am gyfnod mor hir yn gwaethygu gan fy mod i’n methu gweld adlewyrchiad o fy mhrofiadau fy hun yn unman.
Read more on mind.org.uk