Mae Cruella, yn araf bach, wedi llwyddo i reoli fy mywyd, gymaint felly nes fy mod i’n ysgrifennu hwn o Uned Anhwylder Bwyta ymhell o gartref.
Yn sicr, nid dyma oeddwn i’n ddisgwyl fyddai fy mywyd yn 18 oed. Pan oeddwn i’n 14 oed, gosodais nod i fi fy hunan, gydag un o’m ffrindiau ysgol, o fwyta’n iachach a cholli ychydig o bwysau.
Rwy’n meddwl fy mod i'r oedran pan fyddwch chi'n poeni am sut ydych chi'n edrych ac yn cymharu eich hunan gyda phobl eraill.
Read more on mind.org.uk