Wrth i mi edrych yn ôl ar fy mrwydr i â gorbryder mae wedi bod yn rhan ohona i erioed. Rwy’n cofio cael y teimladau o deimlo’n sic a fy nghalon i yn rhedeg pan roeddwn i yn yr ysgol gynradd.
Nath fi a mam ei enwi yn “gweithio fy hunan lan” ac roeddwn yn ei brofi pan roeddwn yn mynd allan i gael bwyd ac yn cwrdd gyda ffrindiau tu allan i’r ysgol.
Nid oeddwn yn gallu deall pam roedd hyn yn digwydd ac roeddwn yn poeni o’r oedran ifanc hynny byddai bywyd yn un caled ac anodd.Pob diwrnod roeddwn yn agor fy llygaid ac roedd y gorbryder yn cydio ynof ac yn gwneud fy mywyd yn uffern.Ond ni ddaeth y gorbryder ar ei waetha tan yr oeddwn i tua blwyddyn 9; dyma pryd nes i rili brofi effeithiau’r gorbryder ar ei waetha.
Read more on mind.org.uk