Rydyn ni’n aml yn clywed bod iechyd meddwl yr un mor bwysig ag iechyd corfforol, ac rwy’n teimlo’n gryf y dylai cefnogi iechyd meddwl cadarnhaol ddechrau’n gynnar ym mywyd unigolyn.Cefais amser caled yn yr ysgol, ac rwy’n teimlo, pe bawn i wedi cael lefel well o gymorth cynnar, y gallwn fod wedi gallu gweithredu’n well a rheoli fy mhroblemau emosiynol yn fwy effeithiol o bosibl.Yn ystod fy amser yn yr ysgol, fe wnes i ddioddef bwlio, ymosodiad rhywiol a thrais uniongyrchol.
Roedd y bwlio ar ei waethaf pan oeddwn i’n gwneud fy arholiadau TGAU, sef blwyddyn 10 ac 11, ac fe wnaeth fy mhresenoldeb yn yr ysgol ddirywio’n sylweddol oherwydd hynny.Pan oeddwn i ar fy ngwaethaf, dim ond unwaith neu ddwywaith yr wythnos oeddwn i’n mynd i’r ysgol, a chafodd hyn effaith enfawr ar fy hyder a fy mherfformiad.Yn anffodus, gan nad oeddwn i’n teimlo fy mod yn cael digon o gefnogaeth, datblygais feddylfryd o beidio ag ymddiried neu ddibynnu ar unrhyw un i fy nghefnogi.
Dechreuais deimlo mai’r peth gorau y gallwn ei wneud oedd cadw’n dawel a pheidio â dweud wrth neb am y profiadau trawmatig eraill a gefais, gan gynnwys y trais a’r ymosodiad uniongyrchol.Hefyd, roeddwn i’n ofalwr ifanc ar y pryd – oherwydd y cyflwr gwanychol roedd fy mam yn dioddef ohono.
Read more on mind.org.uk