Mae'n anodd canolbwyntio ar unrhyw beth heblaw am orbryder ar adeg fel hon. Mae pob ymgais i ddatgysylltu neu gymryd egwyl o'r panig a'r gorbryder yn teimlo fel naid yn ddyfnach fyth i'r entrychion.
Ar rai diwrnodau, rwy'n gallu ymdopi. Rwy'n treulio fy niwrnod yn gwylio ffilm rwy' bob amser wedi eisiau gwylio, neu ddarllen llyfr newydd, neu hyd yn oed wrando ar gerddoriaeth.
Mae'r diwrnodau hynny'n rhai iawn - dydy diwrnodau 'da' ddim wir yn bosib ar hyn o bryd. Ar y diwrnodau gorau hyd yn oed, mae byw gydag iselder a gorbryder yn fy ngadael i â phoenau yn fy mrest wrth i fi boeni am fynd allan.
Read more on mind.org.uk