mind.org.uk
41%
251
Sut mae Monitro Gweithredol wedi fy helpu i daclo fy mhryder
Mae yna, yn bendant, stigma’n dal ynghylch iechyd meddwl, yn enwedig i ddynion. Mae’n anos bod yn agored, ac mae yna lawer iawn llai o gyfleoedd i ni gydnabod ein teimladau.Fel rhan o’m hyfforddiant i ddod yn feddyg teulu, roeddwn i’n aml yn argymell Monitro Gweithredol i’m cleifion oedd yn dod i mewn gyda phroblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol, felly, un diwrnod, dyma fi’n penderfynu rhoi tro arno fy hunan.