Ddechrau 2020, roeddwn ar fy ngwaethaf a deuthum yn agos at wneud amdanaf fy hun. Arferwn ddod adre bob nos; eistedd yn dawel yn y tywyllwch, crio a theimlo wedi ymlâdd oherwydd mod i’n fi."Allwn i ddim gweld dim goleuni."Roeddwn i’n faich i bawb o nghwmpas i – neu dyna oeddwn i’n ei feddwl.
Rwy’n cofio cerdded adref mewn glaw trwm a ddim yn gwybod lle’r oeddwn i na sut i gyrraedd adref. Bûm yn cerdded am oriau gyda dagrau’n llifo i lawr fy ngruddiau.Un noson, aeth pethau’n ormod.
Doedd gen i ddim rheolaeth; roeddwn i’n boddi yng nghanol meddyliau negyddol ac allwn i ddim gweld dim goleuni; na dim ffordd ymlaen.
Read more on mind.org.uk