Roedden nhw’n gallu gweld fy mod i’n cwympo i ddarnau a bod angen help arnaf i, a byddaf i bob amser yn ddiolchgar am hynny.Cefais fy siomi’n arw gyda fy sesiwn gyntaf gyda’r doctor.
Er fy mod i’n ymwybodol bod Anhwylder Affeithiol Tymhorol (SAD) yn gyflwr real a dilys iawn, doeddwn i ddim yn cytuno â’r diagnosis o gwbl.
Ar fy ail ymweliad â’r doctor, cefais bresgripsiwn am dabledi gwrth-iselder a chefais fy anfon adref o’r gwaith. Fel rhywun sy’n meddwl am ei hun fel dyn mawr cryf, wnes i ddim casglu fy mhresgripsiwn gan fy mod i’n meddwl y byddwn i’n gallu ymladd y peth fy hun, ond roeddwn i’n anghywir.
Read more on mind.org.uk