Roeddwn i’n bedair-ar-bymtheg oed pan gychwynnodd fy nhaith gyda Mind, ar ôl i ffrind agos i mi rhoi diwedd ar ei bywyd. Roeddwn i’n ffodus iawn pan oeddwn i yn y brifysgol oherwydd y cwnsela, yr asiantaethau cymorth, y ffrindiau da, a’r mentor anhygoel a chefnogol a fu’n goruchwylio fy nhraethawd hir a gefais yno.Rwy’n gwerthfawrogi pa mor ffodus oeddwn i o gael y cymorth yma, ac rwy’n ymwybodol nad ydy’r gefnogaeth honno ar gael i eraill bob amser - dyma’r rheswm i mi fod yn ymddiriedolwr ac yn Is-gadeirydd Mind Cwm Taf Morgannwg; sef grymuso unrhyw un sydd â phroblem iechyd meddwl i roi’r cyngor a’r gefnogaeth maent wir eu hangen.Drwy fy rôl fel Ymddiriedolwr, rwy’n arwain yr elusen i wneud penderfyniadau allweddol sy’n effeithio ar yr elusen a’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth.
Roeddwn yn gwneud hyn i gyd ochr yn ochr a chydweithio â’r ymddiriedolwyr eraill, y Prif Swyddog Gweithredol a’r Uwch Dîm Rheoli.Fy ffocws yw cyflawni nodau’r elusen i newid bywydau pobl er gwell, i gefnogi’r system iechyd a gofal cymdeithasol ehangach, tra’n aros yn annibynnol.
Mae grwpiau Mind lleol yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl mewn cymunedau lleol ledled Cymru a Lloegr. Mae pob Mind lleol yn unigryw.
Read more on mind.org.uk