Sut wyt ti? Ti yn unig, nid 'sut wyt ti a'r babi?' Ti yn unig. Fel mam, dyma rywbeth rwy'n anghofio amdano yn aml. Rwy'n berson ar wahân i'r babi, er nad ydw i'n teimlo fel hyn yn aml.
Yn naturiol, rydyn ni'n bopeth i'n babanod ni, a dydy hyn ddim o reidrwydd yn beth gwael. Rydw i wedi dwlu ar fod yn fam, mae fy mab bellach yn 14 mis oed a dyma 14 mis gorau, mwyaf anodd, hapus, heriol, ysbrydoledig, dyrys, anhygoel ac emosiynol fy mywyd.
Rwy'n cael diwrnodau lle rwy'n teimlo pob emosiwn posib, a diwrnodau eraill lle nad oes gen i syniad beth rydw i wedi'i deimlo neu hyd yn oed beth rydw i wedi'i wneud.
Read more on mind.org.uk